Glan Tywyn Dairy
Gwaith trawsnewid parlwr godro gwreiddiol a adeiladwyd o flociau yn y 1960au. Dymuniad y cleientiaid oedd trawsnewid y strwythur yn eiddo tair ystafell wely gan adeiladu estyniadau a chodi'r to er mwyn creu ardal fyw ar y llawr cyntaf.
Gwaith adeiladu gan P&C Building Contractors.
Rhagor ynghylch y prosiect hwn...
Roedd yr adeilad wedi'i leoli yng nghornel cae gerllaw'r fferm wreiddiol ac erbyn hyn mae wedi'i dirlunio'n llwyr. Gwaith tirlunio gan Eden Landscapes Ltd a'i ddylunio gan y Pensaer Tirlunio, Katy Bot.
Mae gweddnewidiad cyffredinol y strwythur yn anhygoel.