Adferiad o'r tŷ Celf a Chrefft / Edwardaidd hyfryd hwn a gafodd ei adeiladu yn 1912.
Mae'n debyg mai Joseph Owen sy'n gyfrifol am ddylunio'r tŷ, Pensaer a oedd yn gweithio yn Sgwâr Porthaethwy. Ef oedd Pensaer y Sir ac mae'r tŷ yn cynnwys rhai o'i ddilysnodau arddulliadol, yn debyg i Garreg Lwyd ym Mhorthaethwy a Doldir yn Llangefni.
Mae'r steil William Morris a geir y tu mewn i gyd-fynd ag enghreifftiau o'r gwreiddiol yn dyst ac yn glod i waith, sylw at fanylder ac ymchwil y cleient.