Bwthyn y Goleudy
Rhagor ynghylch y prosiect hwn...
Bu'r bythynnod yn gartrefi i sawl peilot Trinity House drwy gydol y 19fed ganrif ac yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Yn y 20fed ganrif hwyr, daeth y bythynnod yn anheddau preifat a ffurfiodd ran o'r ystâd Bulkeley ac yn y 1990au fe'u gwerthwyd a'u moderneiddio'n wael, gan gynnwys gosod ffenestri uPVC a nodweddion eraill.
Cafodd y bwthyn ei atgyweirio'n ofalus a datryswyd y problemau lleithder a'r dŵr a oedd yn mynd i mewn i'r adeilad. Llwyddwyd hefyd i wella rhai o'r ychwanegiadau diweddarach er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu'n fwy addas â'r hyn y byddai'r Swyddog Cadwraeth a CADW yn ei ystyried yn dderbyniol.